Mae Cynnig yn darparu llawer o weithgareddau gwahanol drwy ein tîm arbenigol o diwtoriaid profiadol, - pob un â chymwysterau uchel yn eu maes. Bydd y gwasanaeth yma’n cynnig llawer o ddewisiadau i’ch helpu i fod yn fwy annibynnol, i wella’ch bywyd cymdeithasol a rhoi mwy o hunan hyder i chi. Bydd yn eich helpu i deimlo’n fwy iach,
hapus a llai unig. Dyma rai o’r cyrsiau :
Coginio, Celf a Chrefft, Ysgrifennu Stori a Cerdd a Drama.
A dyma rai o’r cyrsiau undydd:
Pysgota, Beicio, Bowlio, Tripiau Siopa, Ymarfer Corff, Dyddiau Sba a Harddwch, Datgelu Metel a Ffotograffiaeth.
Ar benwythnosau, rydym yn mynd am dro yn y wlad ac ar dripiau i lawer o leoliadau a digwyddiadau gwahanol.
Rydym yn annog pob newydd-ddyfodiaid i’n Gweithgareddau i ddod i weld ein Cydlynydd Gweithgareddau, er mwyn cael sgwrs am beth fyddai orau i chi.