top of page

Mae pob un o’n gweithwyr cefnogi’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gennym ni.

Maent yn cael hyfforddiant llawn o’r safon uchaf.

Oherwydd hyn, ni sy’n gwbl gyfrifol am eu datblygiad proffesiynol.

Maent yn gallu gwneud y cyrsiau canlynol : Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Symud a Thrin, Cymorth Cyntaf, Iechyd a Diogelwch, Hylendid Bwyd, Epilepsi a Meddyginiaeth.

Mae ein tîm ardderchog o staff cynorthwyol medrus a phroffesiynol yma i’ch helpu. Rydym yn rhoi hyfforddiant parhaol i bob gweithiwr cynorthwyol, a byddwn yn ei oruchwylio a’i arsylwi’n rheolaidd er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r safon uchaf, - gwasanaeth wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion chi. Rydym yn deall y gallwch ffurfio cyfeillgarwch arbennig gyda’ch gweithiwr cynorthwyol. Oherwydd hyn, rydym yn cymryd y gofal pennaf i ddewis aelod o staff ydych yn teimlo’n gwbl gyfforddus yn ei gwmni/ei chwmni.

 

Mae’n ofynnol i bob aelod o staff gael gwiriad GDG llawn cyn dechrau gweithio.

bottom of page