top of page


 

Sefydlwyd Cynnig ym 1994. Sefydliad nid er elw sy’n darparu cymorth a gweithgareddau ar

gyfer oedolion ag anghenion cymhleth ydi o.

Mae Cynnig yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gwirfoddol, Rheolwr, Rheolwr Cynorthwyol, Cydlynydd

Gweithgareddau, Gweinyddwr y Gyflogres a tim o Weithwyr Cefnogi a Gyrwyr.

Er mwyn cyflawni ein dyletswydd at ein cleientiaid, fel Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol

Conwy a hefyd unigolion sy’n talu am gymorth eu hunain, mae Cynnig wedi ehangu’n raddol dros y

blynyddoedd, gan gyflogi staff cymorth o safon.

Ein bwriad yn Cynnig yw darparu cefnogaeth a hyfforddiant o'r safon uchaf, sy’n wrthrychol  a

datblygiadol ar yr un pryd.

Ein nod yw hwyluso cynnydd cadarnhaol sy’n arbennig ar gyfer yr unigolyn. Rydym am sicrhau fod yr

unigolion yr ydym yn eu cynorthwyo yn teimlo eu bod yn perthyn, eu bod ymysg ffrindiau a phobl y

maent yn ymddiried ynddynt, a’u bod yn hapus ac yn ddiogel. Ein hamcan yn y pen draw yw parhau i

wella lles cyffredinol ac ansawdd bywyd unigolion.

bottom of page